Cyflwyno Dogfennau Cyfreithiol ac Ymchwilio

Cyflwyno Dogfennau Cyfreithiol ac Ymchwilio
Mae cwmni Swift yn arbenigo mewn cyflwyno dogfennau cyfreithiol ledled Cymru a Lloegr. Mae dogfennau llysoedd a dogfennau cyfreithiol yn cael eu cyflwyno’r un diwrnod pan fo angen, neu yn ôl ein trefn 7 diwrnod safonol. Gwneir y gwaith am ffi benodol ar ran cyfreithwyr, awdurdodau lleol, cwmnïau cyllid, cwmnïau preifat ac unigolion. Mae ein rhwydwaith o asiantau’n ymestyn trwy bob sir yng Nghymru a Lloegr gan sicrhau y gellir cynnal gwasanaeth ar alwad. Mae’r dogfennau mae cwmni Swift yn eu cyflwyno’n cynnwys hawliadau statudol, deisebau methdaliad neu ddirwyn i ben, ffurflenni hawlio, gorchmynion llysoedd a gorchmynion holi llafar. Gellir anfon dogfennau atom trwy e-bost, y Post Brenhinol, DX neu negesydd. Fel arall, gallwn drefnu eu casglu ar unwaith.
Mae cwmni Swift hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ymchwilio i gleientiaid corfforaethol, masnachol a phreifat. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys casglu tystiolaeth a chyhoeddi adroddiadau ynghylch damweiniau traffig ffordd a damweiniau diwydiannol, dod o hyd i ddyledwyr sydd wedi diengyd, cael manylion cyflogaeth, ymchwilio i hawliadau yswiriant ac anghydfodau’n ymwneud ag eiddo deallusol e.e. tresmasu ar nod masnach a hawlfraint. Mae cwmni Swift hefyd yn gwneud ymholiadau olrhain ac yn paratoi adroddiadau cynhwysfawr ar “ffitrwydd i siwio”. Yn ychwanegol at y gwasanaethau hyn mae cwmni Swift yn adfeddiannu cerbydau gyda chymorth ein lori halio. Mae ein hymagwedd drwyadl a’n 37 mlynedd o brofiad yn golygu bod cwmni Swift yn gwarantu’r canlyniadau gorau i chi am gyfraddau cystadleuol.








