Gwybodaeth

Gwybodaeth

Os oes gennych chi ddyled, mae’n bosibl y bydd y person neu’r sefydliad y mae arnoch chi arian iddo yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn. Dylai’r cwestiynau ac atebion isod gynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth y byddwch ei hangen o dan yr amgylchiadau hyn, ond gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Alwadau Swift Credit Services ar 0844 546 6907, dydd Llun i ddydd Gwener o 8.30am i 5.00pm, i gael mwy o wybodaeth neu i dalu.

Ar ran pwy mae cwmni Swift yn gweithio?

Mae cwmni Swift yn darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol, llysoedd ynadon, landlordiaid masnachol, cyfreithwyr a llawer o gwmnïau cyhoeddus a phreifat eraill ledled y wlad.
Rydym yn adennill treth gyngor ac ardrethi busnes, hysbysiadau tâl cosb, gwarantau atafaelu ac ôl-ddyledion rhenti masnachol, yn ogystal â chynnig gwasanaethau eraill.

Mae holl feilïaid cwmni Swift wedi’u hawdurdodi i orfodi gwarantau/gorchmynion ar ran credydwyr.

Sut ydw i’n gwybod bod y beili wedi’i gyflogi gan gwmni Swift?

Rhoddir i bob beili sydd wedi’i gyflogi gan gwmni Swift gerdyn adnabod y cwmni yn ychwanegol at ei Dystysgrif Llys Sirol, a bydd yn dangos y rhain os gofynnwch iddo.

Pam mae’r beili wedi galw?

Mae’r beili wedi galw i gasglu dyled heb ei thalu a drosglwyddwyd i ni gan ein cleient, a all fod yn awdurdod lleol, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, neu gwmni neu sefydliad preifat.

Mae beili wedi dod i fy nghyfeiriad a gadael llythyr/hysbysiad tra’r oeddwn i allan. Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Cysylltwch â’r beili ar unwaith ar y rhif ffôn a roddir ar y papur a adawyd yn eich cyfeiriad. Os na allwch gysylltu â’r beili dylech gysylltu â’n swyddfa ar unwaith gan ddefnyddio’r manylion a roddir ar ein tudalen gyswllt a siarad ag un o’n Cynghorwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid, a fydd yn trafod y dewisiadau sydd ar gael i chi. Neu gallwch gysylltu â ni trwy e-bost neu’r post gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir.

Os nad ydych yn cysylltu â ni mae’n bosibl y bydd y beili’n ymweld eto a gall hyn gynyddu swm y ffioedd. Ni ddylech anwybyddu’r mater hwn: ni fydd y ddyled yn mynd i ffwrdd ac mae’n bosibl y codir costau ychwanegol arnoch chi bob tro mae ein beili’n ymweld â’ch cyfeiriad.

Pa daliadau all beili eu codi?

Mae’r rhan fwyaf o’r taliadau rydym yn eu codi’n cael eu nodi yn y ddeddfwriaeth berthnasol, gan ddibynnu ar y math o ddyled rydym yn ei chasglu. Rydym yn cytuno gyda’n cleient ymlaen llaw ar unrhyw daliadau eraill.

Sut allaf i dalu?

Gellir cael manylion llawn am sut i dalu yn yr adran “Sut i Dalu”.

Pa bwerau sydd gan feilïaid?

Mae hawl gan feilïaid i gael mynediad heddychlon i’ch cyfeiriad, er mwyn atafaelu nwyddau’r person â’r ddyled ac i fynd â’r nwyddau a’u gwerthu mewn arwerthiant cyhoeddus i dalu’r ddyled.
Wrth orfodi Gwarantau Atafaelu a gyhoeddir gan Lys Ynadon, caniateir i feilïaid ddefnyddio grym i fynd i fangreoedd er mwyn gweithredu’r Warant Atafaelu, ar yr amod bod y grym a ddefnyddir yn rhesymol a bod yr amgylchiadau wedi cael eu cymeradwyo fel rhai priodol gan y Llys.

Beth ddylwn i ei wneud os na allaf dalu neu os wyf i’n methu taliad?

Dylech gysylltu â’n swyddfa ar unwaith i drafod yr ôl-ddyledion sy’n ddyledus; ni ddylech fethu na lleihau taliadau heb drafod hyn gyda’n swyddfa. Os ydych chi’n peidio â thalu fel y cytunwyd cymerir camau pellach i orfodi’r ddyled sy’n ddyledus a gallai costau ychwanegol fod yn daladwy.

Rwy’n cael problemau ariannol. Ble allaf i gael cymorth?

Gellir cael cymorth a chyngor oddi wrth:

Y Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol (gweler www.citizensadvice.org.uk neu’r Tudalennau Melyn i gael manylion cyswllt);
Y Llinell Ddyled Genedlaethol ar 0808 808 4000;

Y Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr ar 0800 138 1111.


Sut allaf i wneud cwyn ynghylch un o gyflogeion cwmni Swift?

Mae cwmni Swift yn disgwyl i holl aelodau ei staff weithredu mewn ffordd broffesiynol a chwrtais. Os ydych chi eisiau gwneud cwyn, dylech ei hanfon at:
Mrs D Price
Rheolwr Cwynion
Swift Credit Services Ltd
2 Heol Penydarren
Merthyr Tudful
CF47 9AH

Neu gallwch anfon neges e-bost atom ar sales@swiftcredit.co.uk

Welsh