Hysbysiadau Tâl Cosb

Hysbysiadau Tâl Cosb
Mae cwmni Swift yn darparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol i adennill Hysbysiadau Tâl Cosb sydd heb eu talu o dan y Deddfau Traffig Ffyrdd i gleientiaid ledled Cymru a Lloegr.
Gan ddefnyddio cerbydau ag offer adnabod platiau rhif yn awtomatig, a chysylltiadau byw â chronfeydd data cerbydau, mae cwmni Swift wedi bod yn adennill Hysbysiadau Tâl Cosb ers dros ddeng mlynedd. Mae ein holl feilïaid yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol, mae ganddynt dystysgrifau ac maent wedi’u hyfforddi’n llawn, sy’n golygu y gallwch fod â hyder yn uniondeb a safonau moesegol y broses.
Mae cwmni Swift wedi cael cyfraddau casglu uchel yn gyson dros flynyddoedd lawer i amrywiaeth o gleientiaid, o gynghorau gwledig bach i awdurdodau metropolitan mawr yng nghanol dinasoedd. Mae pob cleient yn cael gweinyddwr cyfrif penodol, sy’n darparu man cyswllt cyson ar gyfer ymholiadau o ddydd i ddydd. Rydym hefyd yn cyflogi beilïaid yn strategol ledled y wlad, sy’n dod â buddion gwybodaeth leol ac ymateb cyflymach, yn ogystal â lleihau teithio ac felly'r effaith ar yr amgylchedd.
Gall y cyngor weld yr holl gyfrifon bob amser trwy ein gwefan bwrpasol a diogel i’n cleientiaid. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf arni, diolch i ddiweddariadau byw oddi wrth ddyfeisiau PDA y beilïaid a’n system reoli cyfrifon. Gall ein cleientiaid hefyd ddefnyddio’r wefan i wneud newidiadau byw i gyfrifon dyledwyr, 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos.








