Polisi Amgylcheddol
Polisi Amgylcheddol
Ers dros ddeng mlynedd ar hugain mae Swift Credit Services Limited yn gwasanaethu’r llywodraeth, awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, sefydliadau ariannol a byd masnach. Ers ei greu, mae cwmni Swift wedi ennill enw am fod yn arloesol, yn ddibynadwy ac yn barod iawn i ymateb i anghenion y cleient.
Fel busnes teuluol mae cwmni Swift yn credu’n gryf mewn gwerthoedd traddodiadol ac yn eu hybu – gwerthoedd fel proffesiynoldeb, gwasanaeth o ansawdd da, gwerth am arian a gwasanaeth personol – ac yn deall effaith ein busnes ar yr amgylchedd.
1. Cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol
Rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol.
2. Atal llygredd
Rydym wedi ymrwymo i atal llygredd trwy:
- Leihau allyriadau CO2 trwy osod systemau llywio â lloeren yn ein cerbydau, ar y cyd gyda didoli gwaith yn ôl cod post, sy’n lleihau amser a phellter teithio.
- Defnyddio cynorthwywyr personol digidol sy’n caniatáu i’r beilïaid lenwi taflen gofnod yn electronig ac felly lleihau’r papur a ddefnyddir.
- Defnyddio peiriannau argraffu bach sy’n caniatáu i’r beilïaid argraffu gwarantau pan fo angen.
- Mae hyn yn lleihau maint y papur a ddefnyddir gan nad oes yn rhaid i’r beili gario fersiwn bapur o bob gwarant yn ei lwyth achosion.
- Anfon cetris peiriannau argraffu i gael eu hailgylchu.
3. Rheoli gwastraff
Rydym wedi ymrwymo i hybu cael gwared ar wastraff trwy:
- Brynu papur ysgrifennu, papur toiled a phapur cegin sydd wedi’i ailgylchu.
- Argraffu dogfennau ar ddwy ochr y ddalen.
- Ailgylchu papur ffacs a phapur llungopïo.
- Defnyddio system prosesu delweddau dogfennau i storio gwybodaeth. Gellir anfon dogfennau at gleientiaid trwy e-bost ar ôl iddynt ofyn amdanynt, yn lle anfon dogfennau papur.
- Diffodd pob golau, cyfrifiadur a sgrin cyfrifiadur ar ddiwedd y diwrnod gwaith.
- Defnyddio arbedwyr sgrin ar y cyfrifiaduron.
- Defnyddio bylbiau golau sy’n arbed ynni.
- Prynu offer sy’n arbed ynni.
- Defnyddio system wresogi sy’n arbed ynni.
- Diffodd gwresogyddion dros y penwythnosau a gwyliau banc.
- Ailgylchu gwastraff cyffredinol (poteli llaeth, poteli dŵr, caniau ac ati)
4. Effeithlonrwydd ynni
Rydym wedi ymrwymo i effeithlonrwydd ynni.
- Mae cwmni Swift yn defnyddio ceir â pheiriannau bach (ceir Vauxhall Corsa diesel 1.3 litr)
- Bob chwe mis mae cwmni Swift yn monitro faint o nwy a thrydan a ddefnyddir yn y swyddfeydd.
- Mae adeiladau cwmni Swift wedi’u hinswleiddio’n dda.
- Mae beilïaid cwmni Swift yn defnyddio systemau llywio â lloeren – i ddod o hyd i’r ffordd gyflymaf a mwyaf darbodus o gyrraedd.
5. Prynu
- Prynu papur ysgrifennu, papur toiled a phapur cegin sydd wedi’i ailgylchu
- Prynu cetris peiriannau argraffu sydd wedi’u hailgylchu
- Prynu oddi wrth gwmnïau sydd â Pholisi Amgylcheddol
6. Cyfleu’r Polisi i’r staff
Mae pob aelod o staff cwmni Swift yn cael copi o’i Bolisi Amgylcheddol gan y caiff ei gynnwys yn Llawlyfr y Cwmni a’i bostio ar ein gwefan fewnol.
7. Nodi’r uwch swyddog sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y polisi ac am ei weithredu’n effeithiol
Michelle Davies yw’r aelod penodedig o staff yng nghwmni Swift sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am bob mater amgylcheddol ac am weithredu’r polisi yn y cwmni.
8. Adolygu’r Polisi yn rheolaidd
Bob 6 mis mae Michelle Davies a’r Rheolwr Gyfarwyddwr Huw Lloyd-Lewis yn cynnal adolygiadau i drafod materion amgylcheddol a’u heffaith ar fywyd bob dydd yn y swyddfeydd.
9. Trafnidiaeth
- Defnyddio ceir cwmni gyda pheiriannau diesel bach yw un o’r ffyrdd mae cwmni Swift yn ceisio lleihau llygredd. Mae meddalwedd llywio â lloeren wedi’i gosod ar bob un o gerbydau’r cwmni, sy’n lleihau’r amser a phellter teithio, sydd o ganlyniad yn lleihau allyriadau CO2.
Mae cyfarfodydd staff yn cael eu cynllunio ymlaen llaw i sicrhau y defnyddir un cerbyd i gludo aelodau o’r staff i gyfarfodydd.
Mae uwch aelodau o’r staff yn defnyddio cynadledda ffôn yn rheolaidd i leihau teithio lle bo’n bosibl.
Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, i staff sy’n teithio ar fusnes, yn cael ei ystyried fel opsiwn bob amser.thargedau (amserlen a osodir i gyflawni’r amcanion) a chaiff y rhain eu monitro.
11. Hyfforddiant ar hybu datblygu cynaliadwy i godi ymwybyddiaeth amgylcheddol a galluogi’r staff i weithredu mewn ffordd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol
Cynhelir cyfarfodydd gyda’r rheolwyr a’r staff a Michelle Davies bob chwarter i sicrhau bod ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn y Cwmni’n cael ei chyfleu i bob aelod o’r staff.








