Trethi Lleol

Trethi Lleol
Mae cwmni Swift yn darparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol i adennill dyledion Treth Gyngor ac Ardrethi Annomestig i gleientiaid ledled Cymru a Lloegr.
Mae ein holl feilïaid yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol, mae ganddynt dystysgrifau ac maent wedi’u hyfforddi’n llawn, sy’n golygu y gallwch fod â hyder yn uniondeb a safonau moesegol y broses.
Gydag ugain mlynedd o brofiad o adennill dyledion i awdurdodau lleol, mae gennym broses adennill sefydledig ac effeithiol, gan gynnwys ymweliadau, llythyrau a galwadau ffôn, y gellir ei theilwra i ateb gofynion eich cyngor. Yn benodol mae ein beilïaid wedi’u hyfforddi i gael gwybodaeth lawn oddi wrth ddyledwyr, fel eu rhif Yswiriant Gwladol ac enw’r cyflogwr, i ganiatáu i’r cyngor ymchwilio i bob dewis posibl i adennill y ddyled.
Mae ein gweithdrefnau ar gyfer casglu dyledion trethi lleol yn cynnwys “gorfodi meddal”, megis nodiadau atgoffa mewn negeseuon testun, lle mae’r cwbl mae dyledwyr ei angen yw ysgogiad bach i fynd i’r cyfeiriad iawn, hyd at symud ymaith nwyddau a gweithredu gwarantau arestio ar gyfer y dyledwyr mwyaf ystyfnig.
Mae cwmni Swift wedi cael cyfraddau casglu uchel yn gyson dros flynyddoedd lawer i amrywiaeth o gleientiaid, o gynghorau gwledig bach i awdurdodau metropolitan mawr yng nghanol dinasoedd. Mae pob cleient yn cael gweinyddwr cyfrif penodol, sy’n darparu man cyswllt cyson ar gyfer ymholiadau o ddydd i ddydd. Rydym hefyd yn cyflogi beilïaid yn strategol ledled y wlad, sy’n dod â buddion gwybodaeth leol ac ymateb cyflymach, yn ogystal â lleihau teithio ac felly'r effaith ar yr amgylchedd.
Gall y cyngor weld yr holl gyfrifon bob amser trwy ein gwefan bwrpasol a diogel i’n cleientiaid. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf arni, diolch i ddiweddariadau byw oddi wrth ddyfeisiau PDA y beilïaid a’n system reoli cyfrifon. Gall ein cleientiaid hefyd ddefnyddio’r wefan i wneud newidiadau byw i gyfrifon dyledwyr, 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos.








